Rhaglenni Cymraeg

Y mae’r patrwm diwylliannol Cymreig sydd wedi datblygu drwy’r canrifoedd yn cael mynegiant newydd y dyddiau hyn drwy gyfrwng teledu.

Y wefan hon yn darlunio rhai o nodweddion y rhaglenni Cymraeg a gynhyrchir gan TWW yn eu stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, ar gyfer yr ardaloedd a wasanaethir gan erial trawsyrru’r Awdurdod Teledu Annibynnol yn Saint Hilari.

Cerdd a chân o Gymru

Bob mis y mae rhyw ddeng miliwn o bobl ledled Prydain yn gweld y rhaglen Gymraeg Gwlad y Gân — y gynulleidfa fwyaf a gafodd unrhyw gyfres o raglenni Cymraeg erioed.

Ivor Emmanuel

Ni bu unrhyw raglen gerddorol ar y teledu mor gyson lwyddiannus â hon.

Y mae’r corau sy’n ymddangos yn y rhaglen wedi eu ffurfio a’u hyfforddi gan Norman Whitehead, cyfarwyddwr cerdd TWW.

Lleolir y rhaglen ym mhentref dychmygol Llanteli, ac y mae’r cyfarwyddwr,

Christopher Mercer, yn gofalu am gefndir gwahanol iddi bob mis.

Ymhlith y rhaglenni cerddorol eraill a gyflwynwyd gan TWW y mae Trysor o Gân, rhaglen y cymerodd rhai o offerynwyr blaenaf Cymru ran ynddi, a Hoff Alawon a roes gyfle i gerddorion adnabyddus i ddewis eu hoff ddarnau cerddorol.

Y cyfarwyddwr cerdd, Norman Whitehead, yn trafod un o’r catteuon gydag Ivor Emmanuel
Rhati o stiwdio TWW yn ystod teledu un o raglenni Gwlad y Gân

Llysgennad cerdd

Ar ol blynyddoedd o brofiad ar y llwyfan yn Llundain, enillodd Ivor Emmanuel glod mawr iddo’i hun yn rhaglenni TWW. Drwy gyfrwng y teledu annibynnol fe ddaeth yn llysgennad cerdd dros ei wlad enedigol.

Mewn canlyniad i’w lwyddiant eithriadol yn canu gyda Chôr Plant Pontcanna, cafodd ef a’r plant eu dewis i roi detholiad o Wlad y Gân yn y Perfformiad Amrywiaethol Brenhinol yn 1960.

Amser Te gyda Myfanwy Howell

Bob wythnos er pan ddechreuodd TWW deledu rhaglenni (gydag ychydig eithriadau prin) y mae Myfanwy Howell wedi cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Amser Te. Erbyn hyn y mae’r rhaglen hon wedi mynd allan dros 130 o weithiau. Y mae’r rhaglen yn apelio’n arbennig iawn at y gwragedd, ac y mae’r llu mawr o lythyron a ddaw i law yn cynnwys nifer sylweddol oddi wrth bobl y tu allan i Gymru. Ar wahân i eitemau am arddio a gwaith llaw, eitemau cerddorol a sgyrsiau gyda phobl adnabyddus a diddorol, un o nodweddion mwyaf poblogaidd y rhaglen yw’r cyfarwyddiadau coginio a roddir bob wythnos. Y mae’r rhain wedi eu cyhoeddi.

Genedigol o Sir Fôn yw Myfanwy Howell. Y mae’n ynad heddwch ac yn enwog drwy Gymru am ei gwaith cyhoeddus.

TWW yn arloesi mewn dysgu Cymraeg

Un o raglenni arloesi TWW oedd y gyfres Camau Cyntaf a gyflwynwyd gan Miss Cassie Davies, sef arbrawf mewn dysgu iaith drwy gyfrwng teledu.

Dyma’r tro cyntaf erioed i unrhyw gwmni teledu wneud y defnydd arbennig hwn o’i adnoddau. Defnyddiwyd llawer o wahanol fathau o ddulliau dysgu modern gan Miss Davies yn ystod y gyfres hon. Un o Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi ydoedd hi cyn ymddeol.

Y mae cyfres bellach yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.

Dyma a ddywed Miss Cassie Davies:

“Bwriad y gyfres gyntaf hon oedd rhoi ychydig wybodaeth o’r taith i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, cynorthwyo’r rhai sy’n deall ychydig i ychwanegu at eu geirfa, a chadw diddordeb y rhai sydd eisoes yn medru’r iaith yn rhugl.”

I ieuenctid Cymru

Paratowyd llawer o raglenni Cymraeg gan TWW yn arbennig ar gyfer y genhedlaeth ifanc.

Cafwyd cyfres werthfawr iawn ar gyfer disgyblion sydd ar fedr gadael yr ysgol, sef Dewis Gyrfa, a gyflwynwyd gan Mr. Jenkin Jones. Ynddi ymddangosodd arbenigwyr mewn llawer maes.

Yn ddiweddar cafwyd cyfres yn dwyn yr enw Colegau Cerdd, yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr Cymreig sydd ar hyn o bryd yn astudio yn y gwahanol golegau cerdd. Bu nifer o raglenni ieuenctid dan ofal Mr. Hywel D. Robens yn boblogaidd iawn, yn arbennig felly y gystadieuaeth holi rhwng siroedd Cymru — Am y Gorau. Yn y gyfres Ar Brawf rhoddwyd gwobrau i’r myfyrw’yr llwyddiannus mewn prawf i bwyso a mesur gan bwy oedd y bersonoliaeth orau.

Felly y mae’r cyfrwng mynegiant electronig newydd — teledu annibynnol — yn edrych i’r dyfodol.

Problemau ac opiniynau yng Nghymru heddiw

Nid oes dull mwy uniongyrch o drosglwyddo gwybodaeth a barn na thrwy gyfrwng teledu, ac y mae TWW yn enwog erbyn hyn am rymuster a choethder eu rhaglenni trafod.

Yn y gyfres Pawb â’i Farn bu tri Chymro adnabyddus yn trafod pwnc o ddiddordeb arbennig bob wythnos, gyda John Eilian yn y gadair, ac mewn cyfres arall, Gŵr Gwadd, bu panel o dair merch yn holi rhai o wŷr a gwragedd amlycaf y genedl.

Y mae Mr. Raymond Edwards yn un arall o gadeiryddion llithrig a deallus rhaglenni TWW.

Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru 1960

Cafwyd cyfres arbennig o raglenni bob dydd Gwener, dan yr enw Tw’r Ŵyl i baratoi’r ffordd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol 1960 a gynhelir yng Nghaerdydd.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd ‘stiwdio ar olwynion’ newydd TWW, sydd wedi costio £100,000, gerllaw’r pafiliwn mawr i recordio’r prif ddigwyddiadau bob dydd ar gyfer stiwdio gynfas TWW.

Bydd rhaglenni arbennig hefyd yn yr hwyr, nos Lun, nos Fercher a nos Wener, yn ystod wythnos yr Eisteddfod, yn ogystal â darllediadau am ymweliad y Frenhines.

I’r miliynau sy’n derbyn y teledu annibynnol, bydd TWW yn rhoi darlun digymar o’r wythnos bwysig hon ym mywyd Cymru.

Ymhliihy rhai sy’n gysylltiedig â rhaglenni Cymraeg TWW y mae: Wyn Roberts, Dorothy Williams, Owen Griffiths, Christopher Mercer ac Emyr Edwards.

Barn y wasg

“Oherwydd y golygu gofalus . . . gan David Powell, cafodd y gwyliwr gartref holl rin a mwyniant yr Eisteddfod.”

Y Cymro

 

“Rhaid imi dalu teyrnged i’r safon uchel a gynhaliwyd (yn Pawb â’i Farn) dros gyfnod mor hir.”

Gwilym Roberts, Liverpool Daily Post

 

“Y mae rhaglenni Gwlad y Gân wedi gosod safon newydd mewn teledu cerddorol.”

Liverpool Daily Post

 

“Y mae Gwlad y Gân yn datblygu yn fwyfwy caboledig heb golli dim o’i swyn.”

John Whitehead, Bristol Evening World

 

“Deil Amser Te (TWW) mor boblogaidd ag erioed gyda chynulleidfa eang.”

Perspex, Caernarvon & Denbighshire Herald

 

“Cymerir yn ganiataol bron, erbyn hyn, y llithrigrwydd a’r gyfaredd a ddaw o Bontcanna.”

Holyhead Mail

 

“O’r hyn a gynigiwyd gan y ddwy sianel, eiddo TWW a wnaeth yr argraff orau o ychydig arnaf i.”

Western Mail
(am y rhaglenni Gŵyl Dewi)

Rhaglenni Cymraeg TWW – Hydref 1960

BOB DYDD MAWRTH
AMSER TE
Yn cael ei gyflwyno gan Myfanwy Howell
Yn aur yn drydedd flwyddyn

BOB DYDD MERCHER (gan ddechrau Amt 31)
HER YR IFANC
Pobl ifanc yn herio’r sefydliadau

BOB DYDD LAU (gan ddechrau Medi laf)
PWY FASE’N MEDDWL?
Cystadleuaeth newydd
Rhywbeth allan o’r cyffredin

BOB DYDD GWENER (gan ddechrau Medi 2)
LLAIS Y LLENOR
Trafodaeth lenyddol

Cyhoeddwyd gan Adran Cyhoeddusrwydd TWW