Bob wythnos er pan ddechreuodd TWW deledu rhaglenni (gydag ychydig eithriadau prin) y mae Myfanwy Howell wedi cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Amser Te. Erbyn hyn y mae’r rhaglen hon wedi mynd allan dros 130 o weithiau. Y mae’r rhaglen yn apelio’n arbennig iawn at y gwragedd, ac y mae’r llu mawr o lythyron a ddaw i law yn cynnwys nifer sylweddol oddi wrth bobl y tu allan i Gymru. Ar wahân i eitemau am arddio a gwaith llaw, eitemau cerddorol a sgyrsiau gyda phobl adnabyddus a diddorol, un o nodweddion mwyaf poblogaidd y rhaglen yw’r cyfarwyddiadau coginio a roddir bob wythnos. Y mae’r rhain wedi eu cyhoeddi.
Genedigol o Sir Fôn yw Myfanwy Howell. Y mae’n ynad heddwch ac yn enwog drwy Gymru am ei gwaith cyhoeddus.