Rhaglenni Cymraeg

Y mae’r patrwm diwylliannol Cymreig sydd wedi datblygu drwy’r canrifoedd yn cael mynegiant newydd y dyddiau hyn drwy gyfrwng teledu.

Y wefan hon yn darlunio rhai o nodweddion y rhaglenni Cymraeg a gynhyrchir gan TWW yn eu stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, ar gyfer yr ardaloedd a wasanaethir gan erial trawsyrru’r Awdurdod Teledu Annibynnol yn Saint Hilari.

Cerdd a chân o Gymru

Bob mis y mae rhyw ddeng miliwn o bobl ledled Prydain yn gweld y rhaglen Gymraeg Gwlad y Gân — y gynulleidfa fwyaf a gafodd unrhyw gyfres o raglenni Cymraeg erioed.

Ivor Emmanuel

Ni bu unrhyw raglen gerddorol ar y teledu mor gyson lwyddiannus â hon.

Y mae’r corau sy’n ymddangos yn y rhaglen wedi eu ffurfio a’u hyfforddi gan Norman Whitehead, cyfarwyddwr cerdd TWW.

Lleolir y rhaglen ym mhentref dychmygol Llanteli, ac y mae’r cyfarwyddwr,

Christopher Mercer, yn gofalu am gefndir gwahanol iddi bob mis.

Ymhlith y rhaglenni cerddorol eraill a gyflwynwyd gan TWW y mae Trysor o Gân, rhaglen y cymerodd rhai o offerynwyr blaenaf Cymru ran ynddi, a Hoff Alawon a roes gyfle i gerddorion adnabyddus i ddewis eu hoff ddarnau cerddorol.

Y cyfarwyddwr cerdd, Norman Whitehead, yn trafod un o’r catteuon gydag Ivor Emmanuel
Rhati o stiwdio TWW yn ystod teledu un o raglenni Gwlad y Gân

Llysgennad cerdd

Ar ol blynyddoedd o brofiad ar y llwyfan yn Llundain, enillodd Ivor Emmanuel glod mawr iddo’i hun yn rhaglenni TWW. Drwy gyfrwng y teledu annibynnol fe ddaeth yn llysgennad cerdd dros ei wlad enedigol.

Mewn canlyniad i’w lwyddiant eithriadol yn canu gyda Chôr Plant Pontcanna, cafodd ef a’r plant eu dewis i roi detholiad o Wlad y Gân yn y Perfformiad Amrywiaethol Brenhinol yn 1960.

Amser Te gyda Myfanwy Howell

Bob wythnos er pan ddechreuodd TWW deledu rhaglenni (gydag ychydig eithriadau prin) y mae Myfanwy Howell wedi cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Amser Te. Erbyn hyn y mae’r rhaglen hon wedi mynd allan dros 130 o weithiau. Y mae’r rhaglen yn apelio’n arbennig iawn at y gwragedd, ac y mae’r llu mawr o lythyron a ddaw i law yn cynnwys nifer sylweddol oddi wrth bobl y tu allan i Gymru. Ar wahân i eitemau am arddio a gwaith llaw, eitemau cerddorol a sgyrsiau gyda phobl adnabyddus a diddorol, un o nodweddion mwyaf poblogaidd y rhaglen yw’r cyfarwyddiadau coginio a roddir bob wythnos. Y mae’r rhain wedi eu cyhoeddi.

Genedigol o Sir Fôn yw Myfanwy Howell. Y mae’n ynad heddwch ac yn enwog drwy Gymru am ei gwaith cyhoeddus.

Newyddion y dydd gan TWW

Y mae gan TWW restr hir o ohebwyr ac o dynwyr lluniau i gynorthwyo’r Adran Newyddion i gyflwyno’r newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau o bwys yng Nghymru.

Teledir ugain munud o newyddion Cymraeg bob wythnos. Fe’u darllenir gan Eirwen Davies.

TWW yn arloesi mewn dysgu Cymraeg

Un o raglenni arloesi TWW oedd y gyfres Camau Cyntaf a gyflwynwyd gan Miss Cassie Davies, sef arbrawf mewn dysgu iaith drwy gyfrwng teledu.

Dyma’r tro cyntaf erioed i unrhyw gwmni teledu wneud y defnydd arbennig hwn o’i adnoddau. Defnyddiwyd llawer o wahanol fathau o ddulliau dysgu modern gan Miss Davies yn ystod y gyfres hon. Un o Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi ydoedd hi cyn ymddeol.

Y mae cyfres bellach yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.

Dyma a ddywed Miss Cassie Davies:

“Bwriad y gyfres gyntaf hon oedd rhoi ychydig wybodaeth o’r taith i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, cynorthwyo’r rhai sy’n deall ychydig i ychwanegu at eu geirfa, a chadw diddordeb y rhai sydd eisoes yn medru’r iaith yn rhugl.”

I ieuenctid Cymru

Paratowyd llawer o raglenni Cymraeg gan TWW yn arbennig ar gyfer y genhedlaeth ifanc.

Cafwyd cyfres werthfawr iawn ar gyfer disgyblion sydd ar fedr gadael yr ysgol, sef Dewis Gyrfa, a gyflwynwyd gan Mr. Jenkin Jones. Ynddi ymddangosodd arbenigwyr mewn llawer maes.

Yn ddiweddar cafwyd cyfres yn dwyn yr enw Colegau Cerdd, yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr Cymreig sydd ar hyn o bryd yn astudio yn y gwahanol golegau cerdd. Bu nifer o raglenni ieuenctid dan ofal Mr. Hywel D. Robens yn boblogaidd iawn, yn arbennig felly y gystadieuaeth holi rhwng siroedd Cymru — Am y Gorau. Yn y gyfres Ar Brawf rhoddwyd gwobrau i’r myfyrw’yr llwyddiannus mewn prawf i bwyso a mesur gan bwy oedd y bersonoliaeth orau.

Felly y mae’r cyfrwng mynegiant electronig newydd — teledu annibynnol — yn edrych i’r dyfodol.