TWW yn arloesi mewn dysgu Cymraeg

Un o raglenni arloesi TWW oedd y gyfres Camau Cyntaf a gyflwynwyd gan Miss Cassie Davies, sef arbrawf mewn dysgu iaith drwy gyfrwng teledu.

Dyma’r tro cyntaf erioed i unrhyw gwmni teledu wneud y defnydd arbennig hwn o’i adnoddau. Defnyddiwyd llawer o wahanol fathau o ddulliau dysgu modern gan Miss Davies yn ystod y gyfres hon. Un o Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi ydoedd hi cyn ymddeol.

Y mae cyfres bellach yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.

Dyma a ddywed Miss Cassie Davies:

“Bwriad y gyfres gyntaf hon oedd rhoi ychydig wybodaeth o’r taith i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, cynorthwyo’r rhai sy’n deall ychydig i ychwanegu at eu geirfa, a chadw diddordeb y rhai sydd eisoes yn medru’r iaith yn rhugl.”